Teilwng yw'r Oen a laddwyd O'r holl ogoniant mawr, Trwy ganol nef y nefoedd, Ac yma ar y llawr; Pan elo'r holl greadigaeth Yn ulw gan y tân, Teilyngdod Iesu drosof Fydd fy nhragwyddol gân. O f'enaid gwel addasrwydd, Y person dwyfol hwn, Anturia' iddo'th fywyd, A bwrw arno'th bwn: Mae'n ddyn i gydymdeimlo, A'th holl wendidau'i gyd, Mae'n Dduw i fynu'r orsedd, Ar ddiafol, cnawd, a byd. Agorodd ddrws i'r caethion I dd'od o'r cystudd mawr; A'i werthfawr waed fe dalodd Eu dyled oll i lawr: Nid oes dim damnedigaeth I neb o'r duwiol hâd; Y gwaredigion canant Am rinwedd mawr ei waed. Mae ynddo nerth diderfyn, Doethineb maith yn rhad, Deng miliwn o rinweddau, A rhagor, yn y gwaed; Mae ynddo bob rhyw angen Sydd ar bechadur gwan, Tan filoedd o ammheuon, I godi ei ben i'r làn.1-2: Morgan Rhys 1716-79 3 : William Williams 1717-91 Tôn [7676D]: Missionary (Lowell Mason 1792-1872) gwelir: Agorodd ddrws i'r caethion Caned y genedl gyfiawn O am gael ffydd i edrych O Arglwydd Dduw rhagluniaeth O Ysbryd pur nefolaidd Rhyfeddol byth rhyfeddol |
Worthy is the Lamb who was slain Of all the great glory, Through the centre of the heaven of heavens, And here on the earth; When the whole creation goes To ashes by the fire, The worthiness of Jesus for me Shall be my eternal song. O my soul, see the suitability Of this divine Person, Venture for him thy life, And cast upon him thy burden: As man he is to sympathise, With all thy weaknesses altogether, As God he is upon the throne, Over devil, flesh, and world. He opened the door to the captives To come from the great affliction; With his valuable blood he paid All their debt down: There is no condemnation To any of the divine seed; May the delivered sing About the great virtue of his blood. In him is endless strength, Vast wisdom freely, Ten million of virtues, And more, in the blood; In his is every need Which is upon a weak sinner, Under thousands of doubts, To lift up his head.tr. 2016,20 Richard B Gillion |
|